** Oblegid poblogrwydd y Cynllun Scrapio Boeleri Cymraeg, mae pob dalen wedi'i cyhoeddi, ac mae'r Cynllun nawr ar gau i ymgeision newydd. **
Bydd y cynllun gwaredu boeleri yng Nghymru yn cynnig taleb gwerth £500 i hyd at 5,000 o berchenogion tai cymwys tuag at y gost o gael boeler newydd gradd 'A' (neu unfath) neu dechnoleg creu gwres adnewyddu yn lle boeler aneffeithlon (gradd 'G'). Os ydych yn berchennog ty, dros 60 oed ac yn berchen ar foeler gradd 'G' sy'n gweithio, rydych yn gymwys i wneud cais am daleb gwerth £500.
Os oes gennych foeler nwy gyda golau peilot parhaol, mae'n debygol iawn mai boeler gradd 'G' ydyw. Os oes gennych foeler nwy dros 15 oed, neu foeler olew dros 25 oed, mae'n debygol o fod yn foeler gradd 'G'.
Gallwch ddefnyddio gwneuthuriad a model eich boeler i weld a yw'n foeler gradd 'G' drwy ddilyn un o'r dolenni isod: (Saesneg Yn Unig)
Mae gan foeleri newydd gyfradd effeithlonrwydd o 90% neu fwy sy'n golygu eu bod yn cynhyrchu llai o CO2 a llai o gostau rhedeg. O ganlyniad, dylai eich biliau gwresogi leihau tua chwarter, gan arbed tua £235 i chi bob blwyddyn.
Mae'r ffurflen gais ar lein ar gyfer y Rhaglen Sgrapio Boeleri Cymru ddim ar gael yn bresennol. Cysylltwch gyda chynghorydd cwsmer ar ryd ffon 0800 316 2816 os yr ydych eisiau wneud cais.
0800 316 2816
Mae'r llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.30 y.b i 5.30 y.p
Eaga
Rhadbost NEA 11457,
Uned 4 Llys Ty Nant,
Ffordd Ty Nant,
Treforgan,
Caerdydd, CF15 8LW.
Nid oes angen i chi ddefnyddio stamp.
Bydd llythyr yn cynnwys y daleb yn cael ei anfon atoch yn enwi I fynnu at chwe gosodwr cofrestredig sy'n gweithio yn eich ardal. Dim ond ar gyfer gwaith gan osodwyr cofrestredig y cynllun y gellir defnyddio'r daleb.
Bydd eich llythyr a thaleb yn cynnwys rhif cyfeirnod unigryw; felly ni dderbynnir llungopïau. Mae'r daleb yn ddilys am dri mis. Os na ddefnyddir y daleb cyn y terfyn amser, gallwch wneud cais arall. Cofiwch fod y cronfeydd yn gyfyngedig felly mae'n bosibl na fydd y cynnig ar gael os gwnewch gynnig yr eildro.
Yna gallwch gysylltu ag un neu ragor o'r gosodwyr ar y rhestr er mwyn cael arolwg technegol a dyfynbris. Rydym yn argymell eich bod yn cael mwy nag un dyfynbris. Yna gallwch benderfynu pa osodwr rydych eisiau i wneud y gwaith a chysylltu â'r gosodwr yn uniongyrchol i drefnu dyddiad ar gyfer gwneud y gwaith.
Ar ôl i'r boeler gael ei osod a'ch bod yn fodlon ar y gwaith, bydd y gosodwr yn rhoi anfoneb i chi am y gwaith, a fydd yn nodi gostyngiad o £500. Yna byddwch yn rhoi eich taleb sydd wedi'i harwyddo i'r gosodwr er mwyn galluogi'r gosodwr i hawlio'r ad-daliad gan Eaga.
Os ydych yn anfodlon ar y gwaith gosod, am unrhyw reswm, dylech ddweud hyn wrth y gosodwr yn uniongyrchol a chytuno ar ateb. Dylai unrhyw waith adfer gael ei wneud i safon sy'n dderbyniol gennych cyn cyflwyno'r daleb. Bydd Eaga yn cynnal archwiliad dilysu o gyfran o'r gosodiadau er mwyn cadarnhau bod y mesurau wedi'u cwblhau a bod cwsmeriaid yn fodlon.