Sut y gallaf fod yn gymwys?

Mae dwy lefel i'r grant; mae HEES ar gael i ddeiliaid tai sy'n feichiog ac sydd wedi cael tystysgrif mamolaeth (MAT B1) neu deuluoedd â phlant o dan 16 oed. Mae HEES a Mwy ar gael i ddeiliaid tai sy'n 60 oed neu'n hyn, rhieni unigol â phlant o dan 16 oed a phobl sy'n cael budd-daliadau sy'n gysylltiedig â salwch neu anabledd penodol. Mae'n rhaid bod pob un ohonynt wedi cael y budd-daliadau neu'r lwfansau perthnasol.

HEES (grant o hyd at £2,000)

Deiliaid tai sydd â phlentyn o dan 16 oed neu sy'n feichiog ac sydd wedi cael tystysgrif mamolaeth MAT B1 ac sy'n derbyn un neu fwy o'r budd-daliadau isod:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Treth Gwaith (gydag incwm sy'n llai na £16,040)
  • Budd-dal Treth Gyngor
  • Credyd Treth Plant (gydag incwm sy'n llai na £16,040)
  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Berthnasol ac Incwm

Os ydych wedi cael gwaith trwy’r cynllun cyn Hydref 2006, fydd eich hawl i’r grant HEES hyd at £1,500. Bydd y maint ar gael i chi hefyd yn cael ei gostwng gan y gost o’r gwaith rydych wedi cael yn barod.

HEES a Mwy (grant o hyd at £3,600)

Deiliaid tai sy'n 60 oed neu'n hyn neu'n deuluoedd rhiant sengl gyda phlentyn o dan 16 oed, ac yn cael un neu fwy o'r budd-daliadau isod:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai
  • Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Budd-dal Treth Gyngor
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Berthnasol ac Incwm; neu

Neu ddeiliaid tai sydd ag anabledd neu salwch cronig ac sy'n cael un neu fwy o'r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm (mae'n rhaid i hyn gynnwys y Premiwm Anabledd)
  • Credyd Treth Gwaith (mae'n rhaid i hyn gynnwys y Premiwm Anabledd)
  • Budd-dal Tai (mae'n rhaid i hyn gynnwys y Premiwm Anabledd)
  • Budd-dal y Dreth Gyngor (mae'n rhaid i hyn gynnwys y Premiwm Anabledd)
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel (mae'n rhaid i hyn gynnwys Lwfans Gweini Cyson neu Atodiad Symudedd)
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (mae'n rhaid i hyn gynnwys Lwfans Gweini Cyson)
  • Lwfans Byw i'r Anabl
  • Lwfans Gweini

Neu ddeiliaid tai, sy'n hawlio Budd-dal Plant, gyda phlentyn o dan 16 oed, gyda'r plentyn yn cael:

  • Lwfans Byw i'r Anabl

Nid oes angen i ddeiliaid tai sy'n byw yng Nghymru ac sydd dros 80 oed gael unrhyw fudd-daliadau i fod yn gymwys i gael HEES a Mwy yn awtomatig.

Os ydych wedi cael gwaith trwy’r cynllun cyn Hydref 2006, fydd eich hawl i’r grant HEES Plws hyd at £2,700. Bydd y maint ar gael i chi hefyd yn cael ei gostwng gan y gost o’r gwaith rydych wedi cael yn barod.

Ddalen Rhaglen HEES Rhannol (hyd at £500)

Os ydych yn 60 oed neu'n hyn a'ch bod yn berchen ar eich cartref, gallech fod yn gymwys i hawlio hyd at £500 (neu £375 os ydych wedi cael gwaith trwy’r cynllun cyn Hydref 2006) tuag at welliannau effeithlonrwydd ynni, hyd yn oed os nad ydych yn cael unrhyw fudd-daliadau. Bydd y maint ar gaell i chi hefyd yn cael ei gostwng gan y gost o’r gwaith rydych wedi cael yn barod.



Gwnewch gais am Grant HEES

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch ni am ddim ar 0800 316 2815.
Bydd un o'n cynghorwyr yn fwy na pharod i'ch helpu.

Os nac ydych yn derbyn un o’r budd-daliadau cymwys yn y rhestr uwchben, gallwn gynnig i chi archwiliad budd-daliadau llawn i sefydlu os ydych neu os dylech fod yn derbyn budd-daliadau â byddai’n eich cymhwyso am Grant HEES. Plîs cysylltwch â’r tîm Archwiliad Hawl Budd-daliadau ar y rhadffôn 0800 316 6010 neu ar e-bost bec@eaga.com gyda’ch manylion cysylltu fel gallith un o’n cynghorwyr galw chi’n ôl.