Cyngor ar effeithlonrwydd ynni

Mae arfer effeithlonrwydd ynni yn helpu'r blaned drwy leihau faint o allyriadau niweidiol sy'n cael eu rhyddhau i'r atmosffer. Gall mesurau syml fel y rhai a nodir isod hefyd helpu i ostwng biliau tanwydd a chadw gwres, gan wneud eich cartref yn gynhesach.


Awgrymiadau Gorau Eaga

Inswleiddio

Insulation
  • Bydd gwaith inswleiddio a diogelu rhag drafftiau yn helpu i gadw'r ty cyfan yn gynhesach a gostwng eich biliau tanwydd. Dylai inswleiddio yn yr atig fod o leiaf 250mm o drwch o leiaf.
  • Mae inswleiddio waliau hefyd yn bwysig, gan fod tua 33% o'r gwres yn eich cartref yn cael ei golli drwy'r waliau. Gall inswleiddio waliau ceudod, neu rywbeth tebyg, leihau'r ganran a gollir yn sylweddol. Dyma'r math mwyaf effeithiol o inswleiddio. Sicrhewch fod eich silindr dwr poeth wedi'i inswleiddio'n dda. Os yw eich silindr dwr poeth yn yr atig, sicrhewch fod y pibellau hefyd wedi'u hinswleiddio'n dda.
  • Dylid inswleiddio eich tanc dwr poeth gyda siaced sydd tua 75mm o drwch. Mae siacedi'n rhad a gallwch eu prynu o siopau nwyddau i'r cartref a dylent dalu am eu hunain mewn arbedion ar filiau tanwydd ymhen ychydig fisoedd.
 

Offer

Appliances
  • Lle y bo'n bosibl, ceisiwch brynu offer i'r cartref sydd â Logo Energy Saving Recommended logo Arbed Ynni a Argymhellir. Hefyd, edrychwch am Label Ynni'r UE - rhoddir graddau A i G ar offer yn dibynnu ar eu heffeithlonrwydd ynni. Ceisiwch brynu offer â gradd A, neu'r offer â gradd mor agos i hynny â phosibl.
  • Bydd cadw eich rhewgell yn llawn yn ei wneud yn fwy effeithlon ac yn helpu i arbed arian ar eich biliau ynni. Os oes angen, rhowch dorthau o fara ynddo a llenwch flychau gyda phapurau newydd wedi'u rholio mewn bagiau plastig.
  • Diffoddwch setiau teledu, recordyddion fideo, stereos ac ati, yn hytrach na'u cadw ar 'standby'. Mae'r mathau hyn o offer yn defnyddio mwy na 60% o'r ynni ar 'standby' y byddant yn ei ddefnyddio pe bai'r offer ymlaen.
  • Defnyddiwch fylbiau golau sy'n arbed ynni lle bynnag y bo'n bosibl; dim ond 20w o drydan y mae bwlb sy'n rhoi 100w o olau yn ei ddefnyddio.
 

Heating

Appliances
  • Dylai thermostat eich ystafell fod rhwng 18 a 21°C. Gallai troi eich thermostat i lawr 1°C ostwng eich biliau gwresogi hyd at 10%.
  • Mae gwres canolog yn fwy effeithlon na defnyddio tân nwy neu drydan. Fodd bynnag, mae hen foeleri yn dueddol o fod yn aneffeithiol. Gallai newid un o'r rhain am fodel newydd arbed dros 20% ar filiau gwresogi.
  • Ni ddylai thermostat y silindr dwr poeth fod yn uwch na 60°C ar gyfer ymolchi a golchi.
  • Gallai eich cartref fod yn colli 20% o'ch gwres drwy ffenestri sengl nad ydynt wedi'u ffitio'n dda. Mae gosod ail baen yn hytrach na ffenestri dwbl yn rhatach a gall arbed tua £30 y flwyddyn.

Gwnewch gais am Grant HEES

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch ni am ddim ar 0800 316 2815.
Bydd un o'n cynghorwyr yn fwy na pharod i'ch helpu.