A. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd y grant mwyaf yn ddigon i gwmpasu'r gwaith a argymhellir. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau (e.e. lle y bo angen cyflenwad nwy) efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau ychwanegol. Os felly, cewch wybod am hyn cyn i unrhyw waith ddechrau.
A. Gwneir yr holl waith gan gontractwyr a gymeradwywyd, sydd â chymwysterau a phrofiad priodol. Rydym hefyd yn archwilio bob gosodiad gwresogi a chyfran o'r gwaith inswleiddio.
A. Nid yw'r cynllun yn cynnwys newid system wresogi sy'n gweithio, hyd yn oed os yw'n hen neu'n aneffeithiol. Byddai newid systemau sy'n gweithio yn mynd ag adnoddau oddi wrth y rhai nad oes ganddynt wres o gwbl.
A. Ni chynigir taliadau ôl-weithredol o dan y cynllun HEES. Rydym yn ceisio sicrhau bod gwybodaeth am y cynllun yn cyrraedd rhai sy'n debygol o fod yn gymwys. Hyd yn oed os ydych wedi talu am rywfaint o waith efallai y bydd y grant yn cwmpasu gwelliannau eraill sydd ar gael fel inswleiddio yn yr atig neu inswleiddio waliau ceudod.
A. Cyn belled â'ch bod yn gymwys, yna bydd gwres olew neu drydan ar gael o dan y cynllun mewn ardaloedd lle nad oes cyflenwad nwy.
Nodwch:
Ceidw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yr hawl i adennill y grant ar unrhyw
adeg, yn llawn neu'n rhannol, os na chaiff ei ddefnyddio at ddibenion
a gymeradwywyd neu os bydd y Cynulliad yn credu nad yw unrhyw delerau
neu amodau eraill y grant yn cael eu bodloni.