Mae'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (HEES) yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sy'n bwriadu gwneud Cymru'n gynhesach, yn iachach ac yn fwy effeithlon o ran ynni. Mae'r grant HEES yn darparu pecyn o welliannau gwresogi ac inswleiddio gwerth hyd at £3,600.
Mae HEES wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau dros 108,000 o bobl drwy osod gwelliannau gwresogi ac inswleiddio yn eu cartrefi. I weld a allwch hawlio grant HEES, ewch i 'Sut wyf yn cymhwyso?'
Os oes gennych ymholiad am HEES, ffoniwch radffon 0800 316 2815.