Cofrestriad gosodwr

** Oblegid poblogrwydd y Cynllun Scrapio Boeleri Cymraeg, mae pob dalen wedi'i cyhoeddi, ac mae'r Cynllun nawr ar gau i ymgeision newydd. **

Croeso i'r Porth Cofrestru ar gyfer y Cynllun Gwaredu Boeleri a'r Cynllun Taleb Grant Rhannol Cymru

Cynllun Gwaredu Boeleri

Mae'r Cynllun Gwaredu Boeleri yn disgwyl darparu taleb gwerth £500 i hyd at 5000 o berchenogion tai cymwys (perchen-feddianwyr neu'r rhai hynny sydd â budd prydlesol o fwy na 21 mlynedd) yng Nghymru tuag at y gost o gael boeler newydd radd A (neu unfath) neu dechnoleg creu gwres adnewyddu, yn lle boeler gradd 'G'.

Y rhai sy'n gymwys ar gyfer y cynllun yw perchenogion tai (perchen-feddianwyr neu'r rhai hynny sydd â budd prydlesol o fwy na 21 mlynedd) , dros 60 oed sydd â boeler gweithio gradd 'G' ac sydd yn adnewydd gyda boeler newydd radd A (neu unfath) neu dechnoleg creu gwres adnewyddu

Cynllun Taleb Grant Rhannol

Mae'r Cynllun Taleb Grant Rhannol yn cynnig taleb hyd at £500 tuag at gostau gosod system wresogi neu newid / atgyweirio system wresogi ddiffygiol. Gellir hefyd ei defnyddio tuag at gostau mesurau inswleiddio - inswleiddio waliau, inswleiddio'r atig ac atal drafftiau.

Y rhai sy'n gymwys ar gyfer y cynllun yw perchenogion tai (perchen-feddianwyr neu'r rhai hynny sydd â budd prydlesol o fwy na 21 mlynedd) dros 60 oed ac, os ydych yn hawlio am waith gwresogi, dylai fod gennych system wresogi ddiffygiol neu ni ddylai fod gennych system wresogi o gwbl.

Os bydd ymgeiswyr yn gwneud cais am gymorth y cynllun grant yr eildro, bydd y swm a wariwyd eisoes yn cael ei dynnu o werth y daleb, ac felly cyfrifoldeb y gosodwr yw gwirio'r gwerth sydd wedi'i nodi ar y daleb.

Cofrestru i Weithio ar y Cynlluniau

Gallwch gofrestru i weithio ar y ddau gynllun, ond dylech wneud cais am bob cynllun ar wahân. Caiff y ddau gynllun eu rheoli gan Eaga ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Bydd eich cofrestriad yn para am 12 mis. Os byddwch yn hawlio arian am daleb o fewn 12 mis, bydd eich cofrestriad yn cael ei adnewyddu'n awtomatig am 12 mis arall o'r dyddiad y byddwch hawlio'r arian defnyddio. Os na fyddwch yn hawlio arian am daleb o fewn 12 mis, bydd eich cofrestriad yn dod i ben a bydd angen i chi gysylltu â'r Tîm Rheoli Gosodwyr er mwyn adnewyddu eich cofrestriad.

Mae Eaga yn gwmni contractau allanol blaenllaw. Mae'n un o'r cyflenwyr gwres ac ynni adnewyddadwy cenedlaethol mwyaf ac mae ar flaen y gad o ran yr economi garbon. Am ragor o wybodaeth am Eaga, ewch i www.Eaga.com.