

Gwnewch gais drwy ddefnyddio'r rhif ffôn isod am ddim neu drwy lenwi a dychwelyd y ffurflen gais atodedig (nid oes angen i chi ddefnyddio stamp). Gallwch ofyn i ni ddefnyddio cyfrinair pan fyddwn yn cysylltu â chi.

Bydd aseswr yn cysylltu â chi er mwyn trefnu i ymweld â'ch cartref. Bydd hyn fel arfer o fewn mis o'r dyddiad y byddwch yn gwneud cais.

Pan fydd yr aseswr yn ymweld â'ch cartref, bydd yn holi ynglyn â pha fudd-daliadau yr ydych yn eu cael. Bydd angen i'r aseswr weld prawf o'ch budd-daliadau neu'r math o denantiaeth sydd gennych os ydych yn rhentu. Mae'n rhaid bod y naill a'r llall yn gyfredol ar ddiwrnod yr ymweliad. Unwaith y bydd yr aseswr wedi cadarnhau eich bod yn gymwys, byddant yn trafod y gwelliannau sydd ar gael o dan y cynllun.

Os ydych yn rhentu eich cartref, byddwn yn cysylltu â'ch landlord i gael caniatâd i wneud y gwaith.

Os byddwn yn argymell gwres canolog, byddwn yn gwneud cais am gyflenwad os nad oes gennych un eisoes, neu'n sicrhau bod eich cyflenwad trydan yn addas. Cofiwch y gallai gymryd amser hir i drefnu cyflenwadau nwy.

Bydd gosodwr a gymeradwywyd gan HEES yn cysylltu â chi er mwyn trefnu'r gwaith. Os byddwn yn gosod system wresogi bydd y gosodwr yn cynnal arolwg technegol. Os bydd cost y gwaith yn fwy na'r grant sydd ar gael, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn cychwyn ar y gwaith.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i archwilio'r gwaith. Rydym yn asesu safon y gwaith a wneir o dan y grant, fel y gallwch fod yn hyderus y byddwch yn cael gwasanaeth o safon dda.


Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch ni am ddim ar 0800 316 2815. Bydd un o'n cynghorwyr yn fwy na pharod i'ch helpu.